Casgliadau Celf Arlein

fâs (vase à etoiles)

fâs (vase à etoiles)

Dyddiad: 1772 ca

Cyfrwng:

Maint: h(cm) : 35 x l(cm) : 17.5 x w(cm) : 15.2,h(cm) : 3

Derbyniwyd: 1982; Prynwyd

Rhif Derbynoli: NMW A 30090

Yn siâp y fâs hon a’r paentio llwydlun unlliw gwelwn y chwaeth dylunio neo-ramantaidd ddaeth yn boblogaidd yn Ffrainc wedi’r 1760au. Ysbrydolwyd y paentio llwydlun gan gerfwedd isel arddull glasurol. Prin yw’r esiamplau o’r siâp hwn sydd wedi goroesi ac mae dwy fersiwn y gwyddir amdanynt; un â seren chwe phwynt o fewn y siapau hirgrwn ar y caead (sy’n esbonio’r enw vase à étoiles), a’r llall â blodyn wyth petal arni. Rhiciwyd y marc 'Bl' ar y fâs hon, a briodolir i Jean-Matthieu Blard. Bu farw Blard – oedd yn anseur a tourneur yn gyfrifol am ychwanegu dolenni a thaflu gwrthrychau mewn mowld – ym Mehefin 1772, sy’n awgrymu bod y fâs hon wedi’i dyddio oddeutu 1772.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd