Casgliadau Celf Arlein
Dyddiad: 1510-25
Cyfrwng:
Maint: h(cm) : 8.6 x d(cm) : 40.6 x h(in) : 3 3/8,h(cm) :
Derbyniwyd: 1969; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 30141
Delwedd o brydferthwch delfrydol yw’r portread hwn o fenyw ffasiynol â’i gwallt mewn snood, wedi’i seilio mwy na thebyg ar ddarluniau gweithdy dan ddylanwad artistiaid lleol megis Pintoricchio (m 1513) a Perugino (m 1523). Piatto da pompa neu ddysgl arddangos gyffredin yw hon o Deruta yn Umbria, tref grochenwaith fechan, ond pwysig oedd yn arbenigo mewn addurn gwydriad euraid arbennig ar grochenwaith wedi’i baentio’n las. Mewn Eidaleg ar y sgrôl mae’r geiriau TU SOLA SE CHOLEI CHE POIE AITARME (‘ti yw’r unig un all fy helpu’). Awgryma’r datganiad anobeithiol yma taw anrheg priodas oedd y ddysgl, efallai’n un o bâr gyda’r llall yn dangos y priodfab. Mae’n bosibl bod y llinell yn dod o gerdd, soned gan Petrarch efallai, ond nid oes unrhyw ffynhonnell wedi cael ei chanfod.
sylw - (2)
Hi there Angela,
Thanks for your enquiry. I will pass it along to our Image Licensing team via email, and they will take it from there.
Best wishes,
Sara
Digital Team
Thank you for your kind attention.
Sincerely,
Angela Clarke, Ph.D.