Casgliadau Celf Arlein

powlen

Dyddiad: 1745 ca

Cyfrwng:

Maint: h(cm) : 9.2 x diam(cm) : 17.4 x h(in) : 3 5/8,h(cm

Derbyniwyd: 1994; Rhodd

Rhif Derbynoli: NMW A 32268

Mae’r bowlen hon yn rhan o grŵp trawiadol o lestri te a choffi crochenwaith caled gyda gwydriad halen gwyn, esiampl gynnar o arfer diwydiant Crochenwaith Swydd Stafford o gastio slip mewn mowldiau plastr. Ymddengys bod y mowldiau cynnar yma wedi cael eu creu gan dorwyr blociau amhrofiadol, ac nid oes llawer o raen ar y dyluniad terfynol. Cymysgedd o herodraeth, myth, dameg, a golygfeydd bob dydd a welwn yn y deg panel ar y bowlen hon: 1) eryr deuben coronog; 2) tair menyw’n yfed te; 3) ffigwr noeth yn cario glôb; 4) gŵr mewn clogyn yn dal cleddyf a grawnwin a menyw mewn dillad oes y Tuduriaid; 5) llwynog, gŵydd a medaliwn ag arno ben barfog; 6) ceriwb yn trympedi ar gefn llew, gydag alarch yn nofio islaw; 7) dyn a menyw mewn mentyll yn gwisgo capiau fel coronau; 8) menyw noeth yn lledorwedd uwchlaw uncorn; 9) dyn â bwa a ffon yn cerdded dau gi; 10) tarian (chevron rhwng tair fleur-de-lis), carw’n rhedeg ac aderyn.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd