Casgliadau Celf Arlein
Dyddiad: 1994
Cyfrwng: crochenwaith caled
Maint: h(cm) : 22 x l(cm) handle to spout : 19.7 x w(cm)
Derbyniwyd: 1994; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 32277
Walter Keeler yw un o grochenyddion stiwdio mwyaf blaenllaw Prydain. Er bod ei waith yn unigryw ac yn llawn egni, mae’n dal yn ymarferol. Yn nyddiau cynnar ei yrfa roedd yn nodedig am ei ddefnydd radical o grochenwaith caled gwydriad halen traddodiadol. Gan dynnu ysbrydoliaeth o eitemau di-nod fel caniau olew a buddeiau llaeth, cefnodd ar gonfensiwn drwy daflu darnau o’i wrthrychau ar wahân cyn eu huno i greu ffurfiau neilltuol a chyffrous. Gwelwn fedr ei dechneg yn y ‘Tebot Onglog’ trawiadol hwn, dyluniad sy’n ddiffinad o’i arddull ac sy’n ein hatgoffa o gan dŵr. Dywedodd bod hyn yn esiampl o wrthrych anghyffredin yn gwneud swydd gyffredin.