Casgliadau Celf Arlein

jwg

Dyddiad: 1994

Cyfrwng: crochenwaith caled

Maint: h(cm) : 33 x l(cm) handle to lip : 18.5 x w(cm) :

Derbyniwyd: 1994; Prynwyd

Rhif Derbynoli: NMW A 32278

Walter Keeler yw un o grochenyddion stiwdio mwyaf blaenllaw Prydain. Er bod ei waith yn unigryw ac yn llawn egni, mae’n dal yn ymarferol. Yn nyddiau cynnar ei yrfa roedd yn nodedig am ei ddefnydd radical o grochenwaith caled gwydriad halen traddodiadol. Gan dynnu ysbrydoliaeth o eitemau di-nod fel caniau olew a buddeiau llaeth, cefnodd ar gonfensiwn drwy daflu darnau o’i wrthrychau ar wahân cyn eu huno i greu ffurfiau neilltuol a chyffrous. Mae’r ‘jwg cymalog’ hwn, a gynhyrchwyd gyntaf ym 1983, yn un o’i ddyluniadau mwyaf trawiadol. Fe’i cynhyrchwyd o ddau ddarn gwahanol wedi’u torri’n ofalus a’u ffitio at eu gilydd.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd