Casgliadau Celf Arlein

tebot

Dyddiad: 2004

Cyfrwng: ,

Maint: h(cm) : 15.9 x l(cm) handle to spout : 24.2 x diam

Derbyniwyd: 2004; Prynwyd

Rhif Derbynoli: NMW A 37260

Walter Keeler yw un o grochenyddion stiwdio mwyaf blaenllaw Prydain. Er bod ei waith yn unigryw ac yn llawn egni, mae’n dal yn ymarferol. Yn nyddiau cynnar ei yrfa roedd yn nodedig am ei ddefnydd radical o grochenwaith caled gwydriad halen traddodiadol. Cynhyrchwyd y tebot bywiog yma gyda’r tasgiadau gwyrdd a brown yng nghanol y 1990au pan oedd yn arbrofi â gwydriad lliwgar ar briddwaith. Disgrifir hyn yn aml fel gwydriad ‘Whieldon’, gan taw Thomas Whieldon oedd y cyntaf i ddatblygu’r dechneg yn Swydd Stafford yn ystod y 1740au. Cyfunir nodweddion ymarferol y llestr ag elfennau chwareus a pheryglus y pigyn a’r ddolen 'crabstock'.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd