Casgliadau Celf Arlein
Dyddiad: 1975
Cyfrwng: crochenwaith caled,
Maint: h(cm) : 25.5 x w(cm) : 14.5 x d(cm) : 12,h(cm) : 2
Derbyniwyd: 2011; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 39272
Mae Fâs Gwrthbwynt mewn Deuddeg Arlliw yn esiampl gynnar o’r ysbrydoliaeth gerddorol, yr hyn a wnaeth grochenwaith Fritsch mor drawiadol a dylanwadol ddechrau’r 1970au. Roedd cerddoriaeth yn rhan annatod o aelwyd ei phlentyndod, ac wedi astudio’r piano a’r delyn i safon uchel, dyma fu’r dylanwad mwyaf a mwyaf hirhoedlog ar ei gwaith. Mae termau theori gerddorol yn sail gadarn i’w gwaith ac mae'n esbonio bod ‘ffurf darn neu grŵp o ddarnau yn cyfateb i guriad a rhythm cerddoriaeth; y ffigurau rhythm yn y peintiad yw’r tempo a’r rhythm tra bod lliw’n cyfateb i harmoni a thrawsgyweiriad.’ Mae gridiau crwm yn dilyn ffurf y llestr â manyldeb mathemategol sy’n ‘cyfateb i nod amser mewn cerddoriaeth. Newidir y ffigurau rhythm a seilir ar y gridiau yma gan ffurf y llestr gan bwysleisio ei strwythur dynamig.