Casgliadau Celf Arlein

Adfer Alsace-Lorraine i Ffrainc

GREIFFENHAGEN, Maurice  (1862 - 1931)

Adfer Alsace-Lorraine i Ffrainc - Maurice Greiffenhagen

Dyddiad: 1917

Cyfrwng: lithograff ar bapur

Derbyniwyd: 1919; Cyflwynwyd gan y Weinyddiaeth Wybodaeth

Rhif Derbynoli: NMW A 13156

Casgliad: The Great War: Britain's Efforts and Ideals

Canolbwynt y darlun yw Marianne, y ffigwr sydd yn Ffrainc yn alegori o Ryddid a Rheswm, ac mae’n gwarchod yn ei mynwes Alsace a Lorraine, a oedd newydd eu hadennill. Mae’r cefndir yn wenfflam.

Roedd Alsace-Lorraine ar y ffin â’r Almaen yn destun gwrthdaro mawr. Bu’n ganolbwynt ymladd erchyll yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf wrth i’r naill ochr a’r llall ddefnyddio’r ardal a’i phobl fel gwystlon yng ngwres y frwydr.

Un o dras Baltig-Almaenig oedd Greiffenhagen, a anwyd yn Llundain. Astudiodd yn Ysgolion yr Academi Frenhinol, gan arddangos ei waith yno o 1884. Ar ôl ennill bywoliaeth fel darlunydd, trodd ym 1900 at baentio portreadau. Bu’n brifathro Adran Bywlunio Ysgol Gelf Glasgow rhwng 1906 a 1929. 

Mae’r gwaith hwn yn rhan o bortffolio The Great War: Britain's Efforts and Ideals, gyfres o 66 print lithograffig  eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli’r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a’u hannog i ymroi i’r Frwydr.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd