Casgliadau Celf Arlein

Y Wawr

JOHN, Augustus (1878 - 1961)

Y Wawr - Augustus John

Dyddiad: 1917

Cyfrwng: lithograff ar bapur

Derbyniwyd: 1919; Cyflwynwyd gan y Weinyddiaeth Wybodaeth

Rhif Derbynoli: NMW A 13158

Casgliad: The Great War: Britain's Efforts and Ideals

Toriad gwawr wedi’r rhyfel. Saif ffigwr benywaidd llawn emosiwn mewn byd o lanast, trallod a marwolaeth. Yn llechu y tu ôl iddi mae Marwolaeth wrth i gorff arall gael ei gludo i gae sydd eisoes yn orlawn o feddi. Ac eto, mae llewyrch cyntaf y wawr yn torri drwy’r digalondid. Ceir gobaith i’r dyfodol yn y plentyn bychan sy’n adeiladu â cherrig yr adfail.

Brodor o Ddinbych-y-pysgod oedd Augustus John, ac astudiodd yn Ysgol Gelf Slade rhwng 1894 a 1898. Cyn iddo raddio, cai ei gydnabod yn un o ddarlunwyr mwyaf dawnus ei genhedlaeth. Erbyn y 1920au, ef oedd artist portreadau mwyaf blaenllaw ei ddydd a cafodd ei ethol i’r Academi Frenhinol ym 1928. Bu’n byw bywyd yr artist bohemaidd i’r eithaf, diolch yn rhannol i’w ddiddordeb yn niwylliant y Romani.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o bortffolio The Great War: Britain's Efforts and Ideals, gyfres o 66 print lithograffig  eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli’r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a’u hannog i ymroi i’r Frwydr.

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Paul A Asadoorian
4 Chwefror 2021, 15:23
I own this picture from Augustus John. How do I identify the one that I have? It is signed by him and dated but there is no number sequence as to it being a copy of a etching.
Thank you
Paul Asadoorian
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd