Casgliadau Celf Arlein

Buddugoliaeth Democratiaeth

ROTHENSTEIN, William (1872 - 1945)

Buddugoliaeth Democratiaeth - William Rothenstein

Buddugoliaeth Democratiaeth - William Rothenstein

Buddugoliaeth Democratiaeth

Dyddiad: 1917

Cyfrwng: lithograff ar bapur

Derbyniwyd: 1919; Cyflwynwyd gan y Weinyddiaeth Wybodaeth

Rhif Derbynoli: NMW A 13162

Casgliad: The Great War: Britain's Efforts and Ideals

Democratiaeth yw’r fenyw mewn gwyn newydd ei rhyddhau o’i chadwyni, tra bo Gormes – y milwr  Almaenig yn plygu dan gywilydd – mewn cyffion. Caiff Gobaith, ar ffurf baban, ei ddychwelyd i freichiau Democratiaeth, ei fam, gan un o filwyr y cynghreiriaid.

Bu Rothenstein yn gweithio fel paentiwr, lithograffydd, darlunydd ac awdur. Fe’i ganwyd yn Bradford, ac aeth ymlaen i astudio yn Ysgol Gelf Slade, Llundain a’r Académie Julian, Paris. O 1891 ymlaen, dechreuodd artistiaid fel Degas a Pissaro gymryd diddordeb yn ei waith. Cafodd ei benodi’n artist rhyfel swyddogol i fyddin Prydain yn Ffrainc rhwng 1917 a 1918, ac i fyddin feddiannol Canada ym 1919. Fe’i urddwyd yn farchog ym 1931.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o bortffolio The Great War: Britain's Efforts and Ideals, gyfres o 66 print lithograffig  eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli’r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a’u hannog i ymroi i’r Frwydr.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd