Casgliadau Celf Arlein

Aileni’r Celfyddydau

SHANNON, Charles (1863 - 1937)

Aileni’r Celfyddydau - Charles Shannon

Aileni’r Celfyddydau - Charles Shannon

Aileni’r Celfyddydau

Dyddiad: 1917

Cyfrwng: lithograff ar bapur

Derbyniwyd: 1919; Cyflwynwyd gan y Weinyddiaeth Wybodaeth

Rhif Derbynoli: NMW A 13163

Casgliad: The Great War: Britain's Efforts and Ideals

O ddistryw a difodiant rhyfel, gwelwn ferch adeiniog – Celfyddydau – yn codi â sbrigyn o ddeilen lawryf yn ei llaw, symbol gogoniant. Dros y dinistr, torra enfys sydd, o bosibl, yn symbol o obaith.

Er bod Shannon, brodor o Quarrington, Swydd Lincoln, yn fwyaf adnabyddus am ei bortreadau a’i ffigyrau, bu’n gweithio fel lithograffydd a darlunydd hefyd. Ym 1882 dechreuodd astudio engrafu coed yn Ysgol Gelf Lambeth lle cyfarfu ei gydweithiwr oes Charles Ricketts, ac aeth y ddau ati i sefydlu a golygu cylchgrawn The Dial a gwasg Vale gyda’i gilydd. Daeth ei yrfa lwyddiannus i ben ym 1929, wedi iddo ddioddef anafiadau yn disgyn o ben ysgol.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o bortffolio The Great War: Britain's Efforts and Ideals, gyfres o 66 print lithograffig  eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli’r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a’u hannog i ymroi i’r Frwydr.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd