Casgliadau Celf Arlein

Teyrnasiad Cyfiawnder

SULLIVAN, Edmund Joseph (1869 - 1933)

Teyrnasiad Cyfiawnder - Edmund J. Sullivan

Dyddiad: 1917

Cyfrwng: lithograff ar bapur

Derbyniwyd: 1919; Cyflwynwyd gan y Weinyddiaeth Wybodaeth

Rhif Derbynoli: NMW A 13164

Casgliad: The Great War: Britain's Efforts and Ideals

Yma gwelwn Cyfiawnder fel menyw ifanc yn dal clorian gerbron tyrfa o bobloedd y byd. Ym mlaen y dorf mae barnwr Prydeinig yn ei lifrai coch. Gwelwn ddau faban dedwydd yn chwarae wrth droed Cyfiawnder, yn arwydd o obaith i’r dyfodol.

Ganwyd y paentiwr, yr ysgythrwr a’r darlunydd Edmund Sullivan yn Llundain, ac astudiodd gelf dan law ei dad yn Hastings. Ymunodd â staff wythnosolyn y Graphic, cyn gweithio’n ddiweddarach fel darlunydd i gylchgronau’r Daily Graphic a Pall Mall Budget. Cafodd yrfa hynod lwyddiannus wedi hyn yn darlunio llyfrau.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o bortffolio The Great War: Britain's Efforts and Ideals, gyfres o 66 print lithograffig  eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli’r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a’u hannog i ymroi i’r Frwydr.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd