Casgliadau Celf Arlein

Arwain Carcharorion

KENNINGTON, Eric Henri (1888 - 1960)

Arwain Carcharorion - Eric Kennington

Arwain Carcharorion - Eric Kennington

Arwain Carcharorion

Dyddiad: 1917

Cyfrwng: lithograff ar bapur

Derbyniwyd: 1919; Cyflwynwyd gan y Weinyddiaeth Wybodaeth

Rhif Derbynoli: NMW A 13170

Casgliad: The Great War: Britain's Efforts and Ideals

Darluniau ‘sy’n cyfleu ysbryd ein byddin newydd ifanc’ – dyna ddisgrifiad un newyddiadurwr o’r printiau hyn, sy’n dangos milwyr yn hyfforddi ac ar faes y gad. Mae’n debyg y dewiswyd Kennington i fynd i’r afael â’r pwnc hwn gan ei fod yntau wedi listio gyda 13eg Bataliwn (Kensington) Catrawd Llundain ac wedi ymladd ar Ffrynt y Gorllewin, Ffrainc, rhwng 1914 a 1915.  Cafodd ei glwyfo a’i ryddhau am resymau meddygol ym 1915. Fel y rhan fwyaf o waith celf yn ystod cyfnod y rhyfel, nid portreadu’r gyflafan a’r drasiedi fawr oedd y nod. Yn hytrach, mae Kennington yn clodfori’r milwr cyffredin.

Ganed Kennington yn Chelsea, Llundain, yn fab i arlunydd portreadau amlwg. Astudiodd yn Ysgol Gelf Sant Paul, Ysgol Gelf Lambeth ac Ysgol City and Guilds. Cafodd ei benodi’n artist rhyfel swyddogol rhwng 1917 a 1919 a rhwng 1940 a 1943, lle bu’n portreadu morwyr ac awyrenwyr.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o bortffolio The Great War: Britain's Efforts and Ideals, gyfres o 66 print lithograffig  eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli’r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a’u hannog i ymroi i’r Frwydr.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd