Casgliadau Celf Arlein

Y Craen Rheiddiol

CLAUSEN, George (1852 - 1944)

Y Craen Rheiddiol - George Clausen

Y Craen Rheiddiol - George Clausen

Y Craen Rheiddiol

Dyddiad: 1917

Cyfrwng: lithograff ar bapur

Derbyniwyd: 1919; Cyflwynwyd gan y Weinyddiaeth Wybodaeth

Rhif Derbynoli: NWM A 13180

Casgliad: The Great War: Britain's Efforts and Ideals

Craen rheiddiol enfawr yw canolbwynt y llun hwn, craen arbenigol a ddefnyddiwyd mewn ffatri barilau gynnau. Meddyliodd Clausen yn ofalus iawn cyn creu’r ddelwedd – mae’r baril yn y canol yn creu llinell lorweddol i gydbwyso llinell fertigol y craen. Tirluniau oedd arbenigedd Clausen, ac mae’n debyg ei fod yn trin yr olygfa o’r gweithdy fel tirlun, yn uno dyn a pheiriant.

Bu Clausen yn ymchwilio ar gyfer y printiau hyn yn Ffatri Ynnau Frenhinol Woolwich Arsenal, Llundain a oedd yn cynhyrchu arfau, bwledi a ffrwydron ar gyfer lluoedd arfog Prydain. Ar ei anterth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y ffatri’n cyflogi tua 80,000 o bobl ac yn ymestyn dros 1,300 o erwau. Penodwyd Clausen yn artist rhyfel swyddogol ym 1917 ac oherwydd ei oed, bu’n cofnodi gweithgareddau gartref yn hytrach nag ymweld â maes y gad.

Ganwyd Clausen yn Llundain yn fab i George Clausen Senior, paentiwr o fri o dras Danaidd. Aeth i’r Coleg Celf Brenhinol ac ysgolion celf South Kensington, yna’r Académie Julian ym Mharis. Ef oedd un o sylfaenwyr y New English Art Club a chafodd ei ethol yn Athro Arlunio'r Academi Frenhinol ym 1904. Fe’i urddwyd yn farchog ym 1927.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o bortffolio The Great War: Britain's Efforts and Ideals, gyfres o 66 print lithograffig  eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli’r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a’u hannog i ymroi i’r Frwydr.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd