Casgliadau Celf Arlein
Iard longau o graen mawr
BONE, David Muirhead (1876 - 1953)
Dyddiad: 1917
Cyfrwng: lithograff ar bapur
Derbyniwyd: 1919; Cyflwynwyd gan y Weinyddiaeth Wybodaeth
Rhif Derbynoli: NWM A 13184
Tynnwyd y darlun ar gyfer y print hwn o ben craen ‘pen morthwyl’ enfawr a welir yn y print Basn arfogi llong. Mae’r olygfa’n rhoi syniad inni o hyd a lled anferthol gwaith adeiladu llong. Yng Nghymru, adeiladwyd llongau yn Nociau Penfro a’r Iard Longau Genedlaethol yng Nghas-gwent, er nid i’r fath raddau.
Muirhead Bone oedd yr artist rhyfel swyddogol cyntaf. Roedd yn enwog am greu darluniau â manylder ffotograffig ac ymhlith darlunwyr amlycaf Prydain. Yn ogystal â chofnodi’r rhyfel ar y Ffrynt, treuliodd Bone gyfnod ar lannau’r Clyde yn yr Alban, yn cofnodi bwrlwm y diwydiant adeiladu llongau yno. Byddai’n clymu llyfr nodiadau i’w law er mwyn braslunio. Mae’r printiau yn dangos camau gwahanol y broses adeiladu, yn ogystal â golygfeydd o’r iard, un ohonynt o ben craen. Dywedodd un gohebydd fod ei gyfres, ‘delights in the intricacies of scaffolding and mechanical contrivances’. Ymddangosodd y lluniau hyn yng nghyhoeddiad y Swyddfa Ryfel hefyd, The Western Front, cyfrol II, 1917.
Brodor o Glasgow oedd Bone, ac astudiodd yn ysgol gelf y ddinas honno. Ymgartrefodd yn Llundain ym 1901. Bu’n artist rhyfel swyddogol rhwng 1916 a 1918, ac yn artist swyddogol y Morlys rhwng 1939 a 1946. Fe’i urddwyd yn farchog ym 1937.
Mae’r gwaith hwn yn rhan o bortffolio The Great War: Britain's Efforts and Ideals, gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli’r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a’u hannog i ymroi i’r Frwydr.