Casgliadau Celf Arlein

Barod i forio

BONE, David Muirhead (1876 - 1953)

Barod i forio - Muirhead Bone

Barod i forio - Muirhead Bone

Barod i forio

Dyddiad: 1917

Cyfrwng: lithograff ar bapur

Derbyniwyd: 1919; Cyflwynwyd gan y Weinyddiaeth Wybodaeth

Rhif Derbynoli: 13187

Casgliad: The Great War: Britain's Efforts and Ideals

Mae’r llong yma bron yn barod i fynd i ryfel. Gyda’r gweithwyr yn gorffen eu tasgau ac eraill yn cludo nwyddau ar ei bwrdd, mae’r dociau yn frith o ddynion fel morgrug dan anferthedd y llong. Dyma ddisgrifiad cyhoeddiad y Western Front o’r olygfa, ‘It looks like chaos, but everything works up perfectly to the moment when she casts off, free of the seas.’ 

Muirhead Bone oedd yr artist rhyfel swyddogol cyntaf. Roedd yn enwog am greu darluniau â manylder ffotograffig ac ymhlith darlunwyr amlycaf Prydain. Yn ogystal â chofnodi’r rhyfel ar y Ffrynt, treuliodd Bone gyfnod ar lannau’r Clyde yn yr Alban, yn cofnodi bwrlwm y diwydiant adeiladu llongau yno. Byddai’n clymu llyfr nodiadau i’w law er mwyn braslunio. Mae’r printiau yn dangos camau gwahanol y broses adeiladu, yn ogystal â golygfeydd o’r iard, un ohonynt o ben craen. Dywedodd un gohebydd fod ei gyfres, ‘delights in the intricacies of scaffolding and mechanical contrivances’. Ymddangosodd y lluniau hyn yng nghyhoeddiad y Swyddfa Ryfel hefyd, The Western Front, cyfrol II, 1917.

Brodor o Glasgow oedd Bone, ac astudiodd yn ysgol gelf y ddinas honno.  Ymgartrefodd yn Llundain ym 1901. Bu’n artist rhyfel swyddogol rhwng 1916 a 1918, ac yn artist swyddogol y Morlys rhwng 1939 a 1946. Fe’i urddwyd yn farchog ym 1937.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o bortffolio The Great War: Britain's Efforts and Ideals, gyfres o 66 print lithograffig  eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli’r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a’u hannog i ymroi i’r Frwydr.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd