Casgliadau Celf Arlein

Gogwyddo ar uchder o 4,000 o droedfeddi

NEVINSON, Christopher Richard Wynne (1889 - 1946)

Gogwyddo ar uchder o 4,000 o droedfeddi - Christopher Richard Wynne Nevinson

Gogwyddo ar uchder o 4,000 o droedfeddi - Christopher Richard Wynne Nevinson

Gogwyddo ar uchder o 4,000 o droedfeddi

Dyddiad: 1917

Cyfrwng: lithograff ar bapur

Derbyniwyd: 1919; Cyflwynwyd gan y Weinyddiaeth Wybodaeth

Rhif Derbynoli: NWM A 13192

Casgliad: The Great War: Britain's Efforts and Ideals

Golygfa o awyren yw hon. Mae llaw rhywun, Nevinson o bosibl, yn cydio’n dynn yn yr ochr. Hedfanodd Nevinson mewn awyren ddwy sedd ym mis Mehefin 1917. Byddai gweld y ddaear o’r awyr fel hyn yn brofiad newydd sbon i lawer, ac yn rhoi blas iddynt o wefr hedfan.  Bythefnos ar ôl i Nevinson gwblhau ei ddarluniau ar gyfer y printiau hyn, roedd ar y Ffrynt yn rhinwedd ei swydd fel artist rhyfel swyddogol.

Dyma printiau Nevinson yn ennyn cryn edmygedd pan gawsant eu harddangos am y tro cyntaf. Yn ôl un beirniad, ‘he contrives to make the visitor almost giddy’, a dywedodd un arall bod ganddo rym arbennig, ‘the power of expressing sensations rather than visual facts’.

Astudiodd Nevinson lithograffi ym 1912 dan law Ernest Jackson. Ar ddechrau’r rhyfel, aeth ati i wirfoddoli fel gyrrwr ambiwlans, profiad a gafodd effaith ddirdynnol arno. Fe’i penodwyd yn artist rhyfel swyddogol ym 1917. Mae’r printiau hyn yn dilyn y broses o adeiladu awyren, o greu a chydosod y darnau i’r hedfan yn y pen draw, ac yn Weldiwr Asetylen a Cydosod darnau gwelwn gyfraniad cynyddol menywod i’r diwydiant. 

Ganed Nevinson yn Llundain, yn fab i’r newyddiadurwr a’r gohebydd rhyfel Henry Nevinson. Astudiodd yn Ysgol Gelf Slade ac ym Mharis. Caiff ei ystyried yn un o artistiaid rhyfel enwoca’r cyfnod. Er cymaint oedd dylanwad mudiadau avant-garde celfyddyd Ewrop megis Ciwbiaeth a Dyfodoliaeth arno, mabwysiadodd arddull mwyfwy realistig wrth iddo geisio cyfleu’r gwrthdaro.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o bortffolio The Great War: Britain's Efforts and Ideals, gyfres o 66 print lithograffig  eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli’r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a’u hannog i ymroi i’r Frwydr.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd