Casgliadau Celf Arlein
Dyrnu
ROTHENSTEIN, William (1872 - 1945)
Dyddiad: 1917
Cyfrwng: lithograff ar bapur
Derbyniwyd: 1919; Cyflwynwyd gan y Weinyddiaeth Wybodaeth
Rhif Derbynoli: NWM A 13199
Yn y llun hwn gwelwn griw o weithwyr fferm yn llwytho’r cnwd grawn i’r injan ddyrnu er mwyn nithio’r grawn oddi wrth yr us. Roedd hwn yn waith beichus a blinedig a ddenai’r gymuned gyfan ynghyd fel arfer, gan gynnwys y gwragedd. Mae’r ddelwedd yn pwysleisio gwerth gwaith y rhai arhosodd gartref, a pha mor bwysig oedd cydweithrediad pobl Prydain adeg y rhyfel.
Ar 15 Mai 1917, ysgrifennodd Rothenstein at Ernest Jackson, ‘I hope to have the 5th drawing finished early this week and the last next week. I will then come up to town and do what is needful to the stones’. Nid oedd yn hapus gyda rhai o’i weithiau cynnar, gan ddweud fod y llinellau’n ymddangos yn fain a phur symol. Penderfynodd argraffu rhai mewn lliw browngoch yn hytrach na du. Mae’r gweithiau hyn yn syml a chynnil, ac yn wrthgyferbyniad i holl ddwndwr a moderniaeth rhyfel a welir yn llawer o brintiau eraill y gyfres. Mae’r printiau hyn yn dwyn i gof ddelweddau o lafurwyr gwledig a oedd yn gyffredin iawn mewn tirluniau ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mwy na thebyg iddynt gael eu darlunio yn ardal Stroud, Swydd Gaerloyw, lle’r oedd Rothenstein yn byw.
Ganed Rothenstein yn Bradford i deulu Almaenig-Iddewig. Dysgodd ei grefft yn Ysgol Gelf Slade, Llundain a’r Académie Julian, Paris. Yn ogystal â chael ei benodi’n artist rhyfel swyddogol Byddin Prydain ym 1917-1918, bu’n artist i fyddin Canada ym 1919. Ef oedd Pennaeth y Coleg Celf Brenhinol rhwng 1920 a 1935, ac fe’i urddwyd yn farchog ym 1931.
Mae’r gwaith hwn yn rhan o bortffolio The Great War: Britain's Efforts and Ideals, gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli’r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a’u hannog i ymroi i’r Frwydr.