Casgliadau Celf Arlein
Cynnal y Fasnach Allforio
PEARS, Charles (1873 - 1958)
Dyddiad: 1917
Cyfrwng: lithograff ar bapur
Derbyniwyd: 1919; Cyflwynwyd gan y Weinyddiaeth Wybodaeth
Rhif Derbynoli: NWM A 13213
Silwét o long danfor Almaenig, U-boat, a welwnyn y blaendir. Mae newydd daro’r llong yn y cefndir, sydd ar dân. Byddai’r Almaenwyr yn defnyddio llongau tanfor gyda goblygiadau trychinebus yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd parhau i allforio yn hollbwysig i goffrau’r wlad a’r ymdrech ryfel. Cadwyd nifer o’r llwybrau masnachu ar agor yn ystod y rhyfel; un enghraifft yw’r tunplat a gyflenwyd i Ffrainc o Gymru ar gyfer caniau bwyd milwyr. Mae cyferbyniad medrus rhwng goleuni a thywyllwch yng ngwaith Pears yma.
Cyflawnodd y llynges fasnachol dasgau allweddol yn ystod y rhyfel, gan gynnwys cefnogi llongau’r llynges, cludo milwyr a chario cyflenwadau hanfodol. Roedd yn beryg bywyd, a mawr fu colledion y fflyd. Yn llun Pears gwelwn y llongau yn eu holl fanylder.
Ganwyd Pears yn Pontefract, Swydd Efrog, ac er ei lwyddiant fel darlunydd a lithograffydd, mae’n bennaf enwog am ei forluniau. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yn swyddog â chomisiwn gyda’r Morlu Brenhinol, a bu’n gweithio fel artist morol swyddogol rhwng 1914 a 1918, ac eto ym 1940. Cafodd hefyd yrfa lwyddiannus fel cynllunydd posteri, gan greu gweithiau i gwmnïau fel trenau tanddaearol Llundain.
Mae’r gwaith hwn yn rhan o bortffolio The Great War: Britain's Efforts and Ideals, gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli’r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a’u hannog i ymroi i’r Frwydr.