Casgliadau Celf Arlein
Dyddiad: 1818-1823 ca.
Cyfrwng:
Maint: h(cm) : 4.5 x h(in) : 1 3/4 x w(cm) : 30.1,h(cm) :
Derbyniwyd: 1893; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 31421
Addurnwyd y ddysgl hon â golygfa William Edward o’r bont dros Afon Taf llawn llif ym Mhontypridd. Saif y bont tua pum milltir o Nantgarw a mwy na thebyg i’r olygfa gael ei seilio ar waith darlunio yn y man a’r lle gan Pardoe. Mae’r hanshys wedi’u tyllu i leihau’r pwysau ac ar ei chwblhau ym 1756 hon oedd pont un bwa hiraf y byd. Tyfodd yn gyflym yn un o atyniadau de Cymru, gan ddenu artistiaid cyn enwoced â Richard Wilson a J M W Turner hyd yn oed. Fel mwyafrif helaeth porslen addurnedig Nantgarw, mwy na thebyg taw ar gyfer cwsmer lleol y cafodd y ddysgl ei haddurno. Er bod y llythrennau arni’n ymdebygu i JW, ceir tystiolaeth taw’r perchennog oedd Thomas Williams (Gwilym Morgannwg, 1778-1835), bardd a thafarnwr o Bont-y-pŵl fu farw ym Mhontypridd.