Casgliadau Celf Arlein
Dyddiad: 1773
Cyfrwng: golch arian
Maint: h(cm) : 2.6 x l(cm) : 28.1 x w(cm) : 20.7,h(cm) :
Derbyniwyd: 1992
Rhif Derbynoli: NMW A 50659
Mae’r grŵp hwn o ddysglau yn rhan o set 160 darn a gomisiynwyd gan Syr Watkin Williams-Wynn ar gyfer ei dŷ newydd ar Sgwâr St James yn Llundain. Dyluniwyd nifer o’r siapau gan Robert a James Adam, a dyma’r set lestri fwyaf a phwysicaf i gael ei dylunio gan bensaer yn y ddeunawfed ganrif. Gwasgarwyd y llestri dros amser ond mae nifer o ddarnau bellach yng nghasgliad Amgueddfa Cymru. Roedd ynddi ddysglau gweini crwn a hirgrwn, pedair dysgl gawl, deuddeg dysgl saws a phedair canhwyllbren, yn ogystal â phlatiau a llestri halen. Costiodd y cyfan £2,408 a 18 swllt, oedd yn swm anferth ar y pryd.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.