Casgliadau Celf Arlein

cwpan a chaead

cwpan a chaead

Dyddiad: 1733-1734

Cyfrwng: golch arian

Maint: h(cm) : 37 x h(in) : 14 1/2 x weight (gr) : 4882,h

Derbyniwyd: 2005; gyda chefnogaeth Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd / Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

Rhif Derbynoli: NMW A 51569

Ganwyd Paul Crespin i deulu Huguenot a ymsefydlodd yn Llundain rywbryd yng nghanol yr 17eg ganrif mwy na thebyg. Dechreuodd fusnes gofannu aur yn Soho ym 1720, gan aros yno tan 1759. Mae’r cwpan hwn yn esiampl hynod o arddull rococo. Tynnwyd arfbais y perchennog gwreiddiol a rhoi arfbais William Lewis Hughes (1767-1835) o Barc Cinmel, Sir Dinbych yn ei le. Gwnaeth Hughes ei ffortiwn o’r mwynfeydd copr ar Ynys Môn gan gael ei urddo yn Farwnig 1af Dinorben ym 1831. Fe brynodd y cwpan mewn cyfnod pan oedd diddordeb o’r newydd yn arddull rococo.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd