Casgliadau Celf Arlein

Fâs

Dyddiad: 1929

Cyfrwng: gwydr

Maint: h(cm) : 19.9 x diam(cm) : 22.8 x h(in) : 7 13/16,h

Derbyniwyd: 1973; Rhodd

Rhif Derbynoli: NMW A 50728

Arloesodd a datblygodd Maurice Marinot wydr fel gyfrwng celfyddydol yn y stiwdio. Paentiwr ydoedd yn wreiddiol, un o ‘Anifeiliaid Gwyllt’ y mudiad Fauve yn Ffrainc a gafodd eu henwi oherwydd eu defnydd eofn o liw pur. Cynhyrchai Marinot weithiau unigryw wedi’u cynhyrchu â llaw a heb fowldiau. Byddai’n manteisio ar bob un o sgiliau’r triniwr gwydr, gan chwythu a thrin y gwydr eirias a’i ysgythru ag asid a’i hollti pan yn oer. Byddai’n cau gwydr lliw mewn gwydr clir fel strata daearegol, yn creu effaith iâ wedi hollti drwy drochi gwydr poeth mewn dŵr oer, ac yn cyfleu llif dŵr drwy reoli swigod aer yn ofalus.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd