Casgliadau Celf Arlein
Llysiau'r Ehedydd
FANTIN-LATOUR, Henri (1836 - 1904)
Dyddiad: 1871
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 51.2 x 37.0 cm
Derbyniwyd: 1972; Cymynrodd; Jean Alexander trwy Gronfa Genedlaethol y Casgliadau Celf
Rhif Derbynoli: NMW A 2461
Darlun o flodau haf nodweddiadol o'r gyfres ryfeddol o ddarluniau bywyd llonydd, a werthai'n bennaf ar y farchnad Brydeinig. Dyna sut y cynhaliodd yr arlunydd ei hun am y rhan fwyaf o'i yrfa. Er ei fod yn edmygu Manet yn fawr iawn ac yn gyfaill i Morisot, Renoir a Monet, byddai Fantin-Latour yn arddangos yn rheolaidd yn y Salon a'r Academi Frenhinol o dechrau'r 1860au, a beirniadodd yr arddangosfa Argraffiadol gyntaf ym 1874. Roedd y gwaith hwn yn eiddo i WC Alexander, a oedd yn gyfaill i Whistler ac yn ei noddi.
sylw - (1)