Casgliadau Celf Arlein
Tirlun Creigiog gyda Hagar ac Ishmael [Rocky Landscape with Hagar and Ishmael]
GAINSBOROUGH, Thomas (1727 - 1788)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 78.2 x 95.0 cm
Derbyniwyd: 1965; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 100
Hwn oedd unig waith crefyddol gwreiddiol Gainsborough a chafodd ei beintio tua 1788. Gwelir y fam a'i mab yn ymlwybro drwy'r anialwch tywyll. Yn ôl y disgrifiad yn Genesis XXI, 9-15, mae Hagar yn cario'r botel ddw^r werthfawr ar ei hysgwydd. Gyda'i liwiau cyfoethog, tywyll, mae'r darlun hwn yn draethawd ar arddull y peintiwr Sbaenaidd Murillo o'r 17eg ganrif, a gafodd ddylanwad eithriadol o gryf ar Gainsborough yn y 1780au.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.