Casgliadau Celf Arlein
Syr Richard Lloyd (1696-1761) [Sir Richard Lloyd (1696-1761)]
GAINSBOROUGH, Thomas (1727 - 1788)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 76.2 x 63.5 cm
Derbyniwyd: 1949; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 98
Roedd Syr Richard Lloyd (1696-1761), Cofiadur Harwich, Orford ac Ipswich, yn AS yn ei dro dros Mitcham, Malden a Totnes rhwng 1745 a 1759, ac ymddeolodd pan gafodd ei benodi'n farnwr y Trysorlys ym 1759. Mae'n debyg fod y portread yn perthyn i ddechrau'r 1750au pan oedd Gainsborough yn gweithio yn ei ardal enedigol yn Suffolk yn Ipswich, er bod toriad a phatrwm y wasgod hardd yn ein hatgoffa o ffasiwn y degawd blaenorol.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.