Casgliadau Celf Arlein
Pen Merch [Head of a Girl]
GILBERT, Sir Alfred (1854 - 1934)
Dyddiad: 1883
Cyfrwng: efydd
Maint: 38.1 cm
Derbyniwyd: 1946; Rhodd; Syr William Goscombe John
Rhif Derbynoli: NMW A 117
Roedd Gilbert yn byw yn Rhufain o 1878 tan 1884 a'r model ar gyfer y pen hwn oedd Michaelena, nyrs ei fab yn yr Eidal. Mae ansawdd eithriadol gain y cast hwn yn dangos techneg 'cwyr coll' ffowndri Gilbert yn Naples a'i waith caboli cain ei hun ar yr efydd. Yn yr Academi Frenhinol yn 1883 roedd yn ateb pendant i arlunwyr a haerai mai portreadwr gwael oedd Gilbert.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.