Casgliadau Celf Arlein

Katherine Cox (1887-1938)

GRANT, Duncan (1885 - 1978)

Dyddiad: 1913

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 75.9 x 62.7 cm

Derbyniwyd: 1965; Rhodd; Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru

Rhif Derbynoli: NMW A 2155

Bu Grant yn astudio yn Ysgol Gelf Westminster ac ym Mharis. Darganfu Ôl-Argraffiadaeth drwy arddangosfeydd arloesol Roger Fry ym 1910 a 1912. Peintiwyd y portread hwn yn y flwyddyn y gwnaed Grant yn gyfarwyddwr Gweithdy Omega Fry. Mae ei liwiau trwchus yn ein hatgoffa o Matisse a'r Fauves. Roedd Katherine neu 'Ka' Cox (1887-1938) yn aelod o gylch Rupert Brooke a elwid yn Neo-Baganiaid. Roedd yn arbennig o gyfeillgar â Virginia Woolf, a byddai'n aml yn eistedd i Duncan Grant ym 1912-13. Byddai Cox yn gwisgo mewn ffordd arbennig iawn a bron bob amser yn gwisgo pince-nez.

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Marc Staff Amgueddfa Cymru
14 Mehefin 2018, 14:59

Hi Jane,

Thank you very much for bringing this error to our attention. We will correct it in the online text (though there might be a slight lag before the correction appears, so please bear with us) and on the painting's label.

Best wishes,

Marc
Digital Team

Jane Winter
7 Mehefin 2018, 13:56
Ka Cox died in 1938, not 1934.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd