Casgliadau Celf Arlein
Corineus a Goemagot [Corineus and Goemagot]
GRIFFITH, James Milo (1843 - 1897)
Dyddiad: 1869
Cyfrwng: plastr
Maint: 89.8 cm
Derbyniwyd: 1912; Trosglwyddwyd; Amgueddfa Dinas Caerdydd
Rhif Derbynoli: NMW A 2565
Ganed Griffith yn Sir Benfro, ac yn 14 oed dechreuodd weithio fel prentis ar waith adfer Eglwys Gadeiriol Llandaf. Symudodd wedyn i Lundain ond cadwodd gysylltiad agos â Chymru. Mae Corineus a Goemagot yn gymeriadau yn Historia Britonum , gwaith a luniwyd gan Sieffre o Fynwy yn y 12fed ganrif ac a gynhwysai lawer o chwedlau Celtaidd. Disgynnydd i alltudion o Gaerdroea oedd Corineus, a deithiodd i Loegr gan gipio rhannau helaeth o Gernyw ar ôl lladd cewri Cernyw i gyd. Goemagot oedd yr olaf ohonynt, a threchwyd ef yn y diwedd mewn cystadleuaeth ymaflyd codwm. Roedd y testun hwnnw'n gyfle i Griffith bortreadu dau ddyn noeth mewn ystumiau anodd, yn ogystal â ddangos ei wybodaeth o'r chwedlau Celtaidd. Hwn oedd un o'r gweithiau cyntaf i ddod yn eiddo i gorff cyhoeddus yng Nghaerdydd.