Casgliadau Celf Arlein
George Rice Trevor (1795-1869)
HAYTER, Sir George (1792 - 1871)
Dyddiad: 1835
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 35.7 x 30.4 cm
Derbyniwyd: 1961; Rhodd; Cyfeillion yr Amgueddfa Genedlaethol
Rhif Derbynoli: NMW A 422
Roedd George Rice-Trevor (1795 - 1869), 4ydd Barwn Dinefwr yn ddiweddarach, yn AS Torïaidd dros Sir Gaerfyrddin ym 1821-1831 a 1832-1852. Mae'r astudiaeth hon yn un o bron i 400 a wnaed gan Hayter o Aelodau Seneddol ac eraill i'w defnyddio yn ei lun olew anferth o Dŷ'r Cyffredin, sy'n dangos agoriad, ym 1833, y senedd gyntaf ar ôl Deddf Diwygio 1832. Mae hwnnw nawr yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol. Bu Hayter yn astudio yn yr Academi Frenhinol ac yn Rhufain. Ym 1837 cafodd ei benodi'n beintiwr portreadau a hanes i'r Frenhines Victoria.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.