Casgliadau Celf Arlein

Portread o Ddyn

HEEMSKERCK, Maerten van (1498 - 1574)

Portread o Ddyn

Cyfrwng: olew ar banel

Maint: 39.4 x 31.0 cm

Derbyniwyd: 1985; Prynwyd

Rhif Derbynoli: NMW A 234

Mae’n amlwg fod y dyn anhysbys hwn, yn ei gôt leinin ffwr, yn gyfoethog iawn. Mae Van Heemskerck wedi sylwi’n ofalus ar y manylion yn wyneb difrifol yr eisteddwr, ei wallt tywyll a’i aeliau amlwg. Y tu ôl iddo mae tirlun wedi’i beintio’n rhydd, sy’n dwyn atgofion o’r ffresgos hynafol y byddai’r artsit wedi eu gweld pan wrth astudio yn Rhufain. Mae’n debyg y deuai’r eisteddwyr o Haarlem, lle cafodd van Heemskerck ei hyfforddi, a lle’r ymgartrefodd yn ddiweddarach.  Roedd Heemskerck yn ddisgybl i Jan van Scorel a threuliodd o 1532-35 yn Rhufain, lle bu'n astudio hrn olion Rhufeinig. Ar ôl dychwelyd i'r Iseldiroedd bu'n gweithio yn Haarlem yn arbenigo mewn lluniau llachar a phrintiau o themáu crefyddol ac alegorïau clasurol. Mae ei bortreadau, fel y gwaith hwn o tua 1540 a'i gymar, yn dangos rhyw naturioldeb tawel sy'n deillio o draddodiad yr Iseldiroedd yn y bymthegfed ganrif gan Jan van Eyck a Robert Campin.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd