Casgliadau Celf Arlein
Yr Enciliad [The Retreat]
BENASSIT, Louis Eugène (1833 - 1904)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 27.1 x 41.0 cm
Derbyniwyd: 1882; Trosglwyddwyd; Amgueddfa Dinas Caerdydd
Rhif Derbynoli: NMW A 2642
Mae’r orymdaith fawr hon o filwyr lluddedig yn dangos lluoedd y Cadfridog Bourbaki yn ffoi rhag y gelyn ym mis Chwefror 1871, adeg y rhyfel rhwng Ffrainc a Phrwsia. Bu’r rhyfel byr hwn yn drychineb milwrol i Ffrainc. Yn ystod sgarmes ger y ffin llwyddodd lluoedd Prwsia i gau llwybr encilio’r Ffrancwyr. Penderfynodd tua 83,000 o’r Ffrancwyr gydag 11,000 o geffylau gael lloches yn hafan niwtral y Swistir, yn hytrach nag ildio i’r gelyn.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.