Casgliadau Celf Arlein
Adar mewn Gardd
HONDECOETER, Melchior d' (1636 - 1695)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 213.0 x 213.0 cm
Derbyniwyd: 1919; Cymynrodd; Emily Talbot
Rhif Derbynoli: NMW A 2365
Ganwyd Hondecoter yn Utrecht, lle bu'n astudio gyda'i dad Gillis a'i ewythr Jan Baptist Weenix. Erbyn 1659 roedd wedi symud i'r Hague, lle daeth yn arweinydd brawdoliaeth y peintwyr. Ym 1663 roedd wedi ymsefydlu yn Amsterdam. Roedd yn arbenigo mewn darluniau mawr addurniadol o adar. Mae'r llun hwn yn un o chwech o gynfasau Hondecoter a fu'n crogi yn ystafell fwyta 3 Cavendish Square, cartref Emily Charlotte (m. 1918), merch Christopher Rice Mansel Talbot o Abaty Margam a Chastell Penrhys yn Llundain. Mae'n cynnwys alarch, ffesant, hwyaden yr eithin, hwyaden lygad aur a chorhwyad yn hedfan, o flaen wrn a cholofn ddrylliedig a goruwchadeilad.