Casgliadau Celf Arlein
Y Cyrnol Thomas Aubrey (1740-1814) [Colonel Thomas Aubrey (1740-1814)]
HONE, Nathaniel (1718 - 1784)
Dyddiad: 1772
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 91.0 x 72.4 cm
Derbyniwyd: 1948; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 101
Bu Thomas Aubrey (1740-1814) yn Is-gapten 4ydd gatrawd y milwyr traed rhwng 1766 a 1771, ac mae’n gwisgo’r wisg honno yma er iddo gael ei ddyrchafu’n Gapten mewn catrawd arall. Yn fab i Syr Thomas Aubrey of Llantriddyd, Morgannwg, gwasanaethodd ym Michigan yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America, a bu’n Aelod Seneddol dros Wallingford rhwng 1784 a 1790. Cafodd Hone, Gwyddel ac un o aelodau gwreiddiol yr Academi Frenhinol, yrfa lwyddiannus fel darluniwr portreadau a oedd yn aml yn nodedig am eu lliwiau llachar.
sylw - (4)
This artwork is currently on display at National Museum Cardiff in the 'Art in Wales 1700-1800 gallery.
Thank you for your interest in Amgueddfa Cymru