Casgliadau Celf Arlein
Peilat yn golchi ei Ddwylo
BIJLERT, Jan van (1597 - 1671)

Cyfrwng: olew ar banel
Maint: 107.8 x 82.7 cm
Derbyniwyd: 1924; Cymynrodd; T.H. Thomas
Rhif Derbynoli: NMW A 32
Gwelwn Bontiws Peilat, Llywodraethwr Jiwdea, yn golchi ei ddwylo’n symbolaidd, â’i wyneb yn dangos pwysau euogrwydd. Yn y cefndir, mae Crist yn cael ei arwain i’w groeshoelio. Mae’n bosibl mai hunanbortread o'r arlunydd ei hun, van Bijlert, yw’r cymeriad ar y pen ar y chwith. Roedd yn arbenigo mewn gwaith portreadol, genre a golygfeydd hanesyddol. Byddai hefyd yn peintio testunau crefyddol ar gyfer yr Eglwys Gatholig er gwaethaf ei ddaliadau Protestannaidd.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.