Y diffiniad cyfreithiol o Drysor
Diffiniad o Drysor
(mae Deddf Trysor 1996 yn berthnasol i ganfyddiadau yng Nghymru a Lloegr)
Mae'r canfyddiadau isod o geiniogau ac arteffactau yn Drysor dan Ddeddf Trysor 1996 os ydynt wedi'u canfod ar ôl 24 Medi 1997 (neu, yn achos y trydydd categori, os ydynt wedi'u canfod ar ôl 1 Ionawr 2003)
- Unrhyw wrthrych (arteffact) metelig heb fod yn geiniog, os yw 10% o leiaf o'i bwysau yn fetel gwerthfawr (h.y. aur neu arian) AC ei fod yn 300 mlwydd oed o leiaf ar ei ganfod.
- Unrhyw wrthrych (arteffact) cynhanesyddol os oes unrhyw ran ohono yn fetel gwerthfawr.
- Unrhyw grŵp o ddau neu fwy o wrthrychau (arteffactau) cynhanesyddol metel o unrhyw fath sy'n dod o'r un canfyddiad (ac wedi'u canfod ar ôl 1 Ionawr 2003).
- Dwy neu fwy o geiniogau o'r un canfyddiad, os yw 10% o leiaf o'u pwysau yn fetel gwerthfawr a'u bod dros 300 mlwydd oed.
- Deg neu fwy o geiniogau o'r un canfyddiad, gyda llai na 10% o leiaf o'u pwysau yn fetel gwerthfawr a'u bod dros 300 mlwydd oed. Bydd ceiniogau sydd wedi eu pennu o'r un canfyddiad fel arfer yn i) celc, sydd wedi'i guddio'n fwriadol; ii) grwpiau llai o geiniogau, megis cynnwys pwrs; a iii) offrwm neu weddillion defod.
- Unrhyw wrthrych (arteffact), beth bynnag ei ddeunydd, sydd wedi'i ganfod yn yr un lle, neu oedd yn arfer bod gyda gwrthrych neu wrthrychau eraill sydd yn Drysor.
- Unrhyw wrthrych fyddai wedi cael ei bennu yn Drysor (h.y. dan y gyfraith cyn Deddf Trysor 1996), ond heb gwympo i un o'r categorïau penodol uchod. Dim ond gwrthrychau llai na 300 mlwydd oed, gyda chyfansoddiad sylweddol o aur neu arian, sydd wedi'u cuddio'n fwriadol gyda'r bwriad o'u hawlio, a bod y perchennog neu'r etifedd yn anhysbys fydd yn syrthio i'r categori hwn.
Mae gwrthrych (arteffact) neu geiniog yn 'rhan o'r un canfyddiad' â gwrthrych neu geiniog arall os yw'n cael ei ganfod yn yr un lleoliad (h.y. mewn perthynas uniongyrchol), neu wedi cael ei adael neu ei gladdu gyda'r gwrthrych arall yn wreiddiol. Yn aml, gall canfyddiadau ategol gael eu gwasgaru o'r man claddu gwreiddiol, fel arfer oherwydd tarfu diweddar, fel gwaith fferm.
Diffiniad ychwanegol o Drysor (ers 30 Gorffennaf 2023)
Mae diffiniad ychwanegol newydd o Drysor wedi'i seilio ar bwysigrwydd eithriadol y gwrthrych yn cael ei ychwanegu at y diffiniadau presennol. Y bwriad yw diffinio gwrthrychau sy'n rhoi cipolwg rhagorol ar agwedd o hanes, archaeoleg neu ddiwylliant cenedlaethol neu ranbarthol o ganlyniad i'w prinder, neu ffactorau eraill.
Bydd gwrthrych yn bodloni'r diffiniad oherwydd un neu fwy o'r ffactorau canlynol:
- Mae'n esiampl prin o'r gwrthrych os yw:
a. Yn ehangu ar yr esiamplau hysbys yn y DU o wrthrych penodol, ffurf benodol, arddull celfyddydol, neu dystiolaeth o dechneg gynhyrchu, ac yn darparu cipolwg nodedig arnynt.
b. Mewn cyflwr llawer gwell neu mwy cyflawn nag esiamplau hysbys eraill, ac felly'n rhoi cipolwg nodedig ar agwedd o hanes, archaeoleg neu ddiwylliant cenedlaethol neu ranbarthol.
c. Wedi ei ddefnyddio, ei drin neu ei addasu mewn modd prin neu anarferol yn ystod ei oes, ac felly'n rhoi cipolwg nodedig ar agwedd o hanes, archaeoleg neu ddiwylliant cenedlaethol neu ranbarthol.
- Mae lleoliad y canfyddiad yn rhoi cipolwg nodedig ar hanes neu ddiwylliant penodol y lleoliad (boed y cyswllt gyda'r lleoliad penodol, y rhanbarth, neu'r rhan o'r DU – Cymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon - y cafodd ei ganfod)
- Mae grŵp o wrthrychau â chyswllt agos â pherson neu ddigwyddiad o bwys hanesyddol, ac felly'n gwneud cyfraniad sylweddol at ein dealltwriaeth o'r person neu'r digwyddiad hwnnw. Dylai fod tystiolaeth bositif gryf o'r cyswllt. Os yw'r dystiolaeth yn wan ac nad yw'r gwrthrych yn rhoi cipolwg nodedig neu'n gwneud cyfraniad sylweddol i'n dealltwriaeth o'r person neu'r digwyddiad, ni fydd fel arfer yn cael ei gyfri'n Drysor.
Mae'r diffiniad yn berthnasol i unrhyw wrthrych metel neu geiniog sy'n hŷn na 200 mlwydd oed, sydd ddim yn bodloni'r diffiniadau eraill o Drysor ond sy'n bodloni'r diffiniadau pwysigrwydd eithriadol uchod.
Mae ceiniogau unigol yn Drysor os ydyn nhw'n bodloni'r diffiniadau pwysigrwydd eithriadol.