Botaneg
Mae Amgueddfa Cymru yn gartref i Lysieufa Genedlaethol Cymru, sy'n cynnwys dros 750,000 o sbesimenau o bob cwr o'r byd.
Ein nod yw creu a chadw darlun llawn o fotaneg Cymru, sydd o bwys ac o safon rhyngwladol.
Mae'r Llysieufa yn dyst i 300 mlynedd o gasglu ac yn cyfrannu at ymchwil rhyngwladol ym meysydd dosbarthu a newid hinsawdd.
Casgliadau
Mae'r casgliad yn cynnwys planhigion, ffyngau ac algae wedi'u cadw, yn ogystal ag arteffactau, sleidiau, modelau a darluniau. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae:
- Esiamplau o bron i bob planhigyn fasgwlaidd cynhenid i'r DU a nifer o rywogaethau sydd wedi'u cyflwyno i'r ynysoedd.
- Casgliadau pwysig o blanhigion blodeuog Prydain gan gynnwys Hieracium, y Casgliad Dosbarthol Cenedlaethol, a chasgliad cyfeiriol pwysig o blanhigion Rubus.
- Casgliad bryophytau ail fwyaf y DU. Yn ogystal â Chasgliad y DU Cymdeithas Fryolegol Prydain, mae yma dystiolaeth hanfodol o'r mil a mwy o rywogaethau mwsogl, llysiau'r afu a cyrnddail ym Mhrydain ac Iwerddon a'u dosbarthiad heddiw ac yn y gorffennol.
- Dros 1000 o deipsbesimenau, man cychwyn enwi gwyddonol.
- Y casgliad botaneg economaidd o blanhigion a ddefnyddir ledled y byd mewn meddyginiaeth, dillad a bwyd.
Uchafbwyntiau Ymchwil
- Mae ein hymchwil dosbarthol ac ecolegol i ddiatomau (algae microsgopig) yn bwysig i ddeall sut mae llygredd a newid hinsawdd yn effeithio ar ein hafonydd a'n llynnoedd.
- Mae monitro hirdymor o wasgariad paill arwyneb yng Nghymru yn cynyddu dealltwriaeth o newid llystyfiant a hinsawdd dros filoedd o flynyddoedd ac yn caniatáu i ni gymharu â lleoliadau perthnasol ar draws Ewrop.
- Mae gwaith mapio mwsogl arloesol yn Ynysoedd Malfinas yn ein galluogi i gymharu'r llystyfiant ag ardaloedd eraill yn Hemisffer y De.