Gweminar Natur am Byth 1: Molysgiaid
O'r falwen droellog fach sy'n cuddio mewn twyni tywod, i Gragen Gylchog Arctig llynnoedd mynyddig, a'r Wystrys oedd unwaith mor gyffredin yn ein moroedd, mae molysgiaid yn goroesi yn y gwyllt ym mhob cwr o Gymru.
Dysgwch sut a ble allwn ni ganfod ac adnabod y molysgiaid hyn, eu cyswllt â phobl, a beth sy'n cael ei wneud i'w harbed rhag marw allan. Mae'r weminar hon yn rhan o gyfres o brofiadau adnabod rhywogaethau ar-lein gan guraduron hanes natur Amgueddfa Cymru. Bydd ein curaduron yn defnyddio ffotograffau a fideos o'r Amgueddfa a chynefinoedd gwyllt i fynd â chi ar 'daith maes rithwir' er mwyn dangos beth sy'n unigryw am bob rhywogaeth, a'r gwaith i'w gwarchod.
Cyflwynwyr: Ben Rowson ac Anna Holmes
Mae'r weminar hon yn ymdrin â'r pum molwsg yn y prosiect Natur am Byth: tair Malwoden Droellog (rhywogaeth Vertigo), y Wystrysen (Ostrea edulis) a physgragen gylchog yr Arctig (Conventus conventus).
Mae Malwod Troellog (rhywogaeth Vertigo) yn sensitif i lefelau lleithder a gallan nhw fyw mewn ardaloedd bach o gynefin arbenigol. Gallan nhw atgenhedlu heb baru, ond maen nhw’n lledaenu'n araf iawn. Mae 10 rhywogaeth yng Nghymru, pob un ohonyn nhw’n fach iawn (tua maint hadau sesame). Mae eu dangos o dan y microsgop yn datgelu faint yn llai na malwod "cyffredin" ydyn nhw. Gellir camgymryd Malwod Troellog am Falwod Chwiler (Lauria a Pupilla) sydd, er eu bod yn fach, yn fwy mewn gwirionedd. Mae gwahaniaethau allweddol i’w gweld yn y cregyn.
Mae Malwod Troellog Ceg Gul (Vertigo angustior) yn brin ond yn hawdd eu hadnabod am eu bod yn troelli i'r chwith. Maen nhw’n byw mewn twyni tywod a gellir eu canfod trwy fynd yn agos i’r ddaear, mewn llystyfiant wedi’i hidlo, neu drwy gael samplau trwy sugnedd. Maen nhw angen darn llaith o laswellt. Mae Natur am Byth wedi comisiynu arolygon o'r systemau hysbys (ac anhysbys) o dwyni yn Ne Cymru i ganfod hynt y rhywogaeth. Mae o leiaf un safle newydd wedi'i ddarganfod.
Mae Malwod Troellog Desmoulin (Vertigo moulinsiana) yn rhywogaeth mwy o faint gyda gwefus lydan. Maen nhw’n hoffi corsydd moethus a gellir dod o hyd iddyn nhw trwy daro cyrs ar hambwrdd. Maen nhw’n brin iawn yng Nghymru, ond mae poblogaeth fawr ar Afon Penrhos ger Pwllheli.
Mae Malwod Troellog Geyer (Vertigo geyeri) yn brin tu hwnt (a hefyd yn anodd i'w hadnabod). Maen nhw’n hoffi porfeydd byr tryddiferog, cynefin creiriol ôl-rewlifol. Chwiliwyd yn ddyrys amdanyn nhw ond ymddengys mai dim ond mewn un safle yng Nghymru y’u gwelir bellach sef Waun Eurad ar Ynys Môn. Felly maen nhw mewn perygl gwirioneddol o ddifodiant yng Nghymru.
Mae'r tair rhywogaeth Vertigo dan fygythiad yn sgil newidiadau mewn hydroleg, gorbori neu danbori, a chael eu cysgodi gan hesg neu goed. Yn ogystal ag arolygon, mae Natur am Byth yn ymwneud â rheoli eu cynefinoedd a dod o hyd i ffyrdd o ddiogelu eu dyfodol.
Mae cregyn deuglawr yn hidl-ymborthwyr dyfrol â chanddyn nhw bâr o gregyn. Prin eu bod yn symud o gwbl, ond maen nhw’n gallu lledaenu trwy eu larfa.
Mae'r Wystrys (Ostrea edulis) wedi cael eu cynaeafu a'u bwyta ers canrifoedd. Canolfan arbennig yng Nghymru oedd y Mwmbwls, ger Abertawe. Yn sgil gorbysgota diflannodd y gwelyau yng Nghymru yn y 19eg ganrif ac mae sawl prosiect i’w hadfer erbyn hyn. Mae'n hawdd drysu’r rhywogaeth frodorol â dwy rywogaeth wystrys anfrodorol, dwy rywogaeth dŵr dwfn, a thair rhywogaeth arall sy'n cyrraedd trwy rafftio o'r Caribî. Gwelir y gwahaniaethau allweddol rhwng y tair rhywogaeth wystrys sy'n gyffredin yng Nghymru, gan gynnwys rhai iau. Mae wystrys hefyd yn agored i glefydau a llygredd. Trwy annog pysgodfeydd lleol, fel yn y Mwmbwls, gellid o bosibl helpu i achub y rhywogaeth yng Nghymru.
Mae'r Bysgragen Gylchog Arctig-Alpaidd (Conventus conventus) yn rhywogaeth fach ac anghyffredin. Yng Nghymru dim ond mewn pedwar llyn fry yn y mynyddoedd yn Eryri y’i gwelwyd. Mae Pysgregyn Cylchog yn grŵp amrywiol a all fod yn heriol iawn i'w hadnabod. Dangosir nodweddion allweddol y C. conventus . Mae'n rhywogaeth greiriol rhewlifol sy'n cael ei bygwth gan hinsawdd sy'n cynhesu a llygredd llynnoedd. Mae Natur am Byth wedi bod yn ailymweld â'i safleoedd hysbys ac yn ceisio dod o hyd i eraill yn Eryri yn ogystal â chodi proffil y rhywogaeth.