Gweminar Natur am Byth 2: Pryfed Prin yng Ngogledd Cymru
Y tro hwn byddwn ni’n edrych ar ddwy rywogaeth llawn cymeriad o ogledd Cymru – Saerwenynnen Fawr y clogwyni, a Pryf Milwrol Clybiog y gwlyptiroedd. Byddwn ni’n dysgu pam fod y pryfed prydferth hyn yn brin, a beth sy’n eu gwneud nhw’n unigryw.
Dysgwch sut a ble allwn ni ganfod ac adnabod y molysgiaid hyn, eu cyswllt â phobl, a beth sy'n cael ei wneud i'w harbed rhag marw allan.
Cyflwynydd: Thom Dallimore
Beth sy'n gwneud pryfyn yn brin? Mae sawl ffordd y gallwn ystyried bod pryfyn yn brin. Yn gyffredinol maen nhw’n fwy toreithiog na mamaliaid, ac yn fwy symudol na phlanhigion, felly mae ceisio deall i ba raddau mae rhywogaeth mewn perygl yn gallu bod yn her gymhleth. Heblaw am rai eithriadau, mae’n bwysig i ni wybod nifer y safleoedd. Mae’r Great Britain Rarity System yn edrych ar faint o sgwariau 10 km2 sy'n cael eu meddiannu gan rywogaeth. Credir bod rhywogaethau prin yn genedlaethol i'w cael mewn dim ond 1 – 15 o'r hectadau hyn. Dwy rywogaeth yw'r Pryf Milwrol Cyffredinol Clybiog, a Saerwenynen y Clogwyn.
Mae'r Pryf Milwrol Cyffredinol Clybiog (Stratiomys chamaeleon) yn bryfyn mawr melyn a du (Diptera) sy'n llwyddo i ddynwared gwenyn meirch yn dda iawn. Ar yr wyneb, mae edrychiad pryfed milwrol, y Stratiomyidae, yn debyg i bryfed hofran a gellir drysu'r ddwy rywogaeth yn hawdd. Gellir adnabod pryfed milwrol wrth eu cyrff fflat yr olwg. Wrth orffwyso maen nhw’n dal eu hadenydd fel eu bod yn gorgyffwrdd yn dynn dros yr abdomen, ac yn aml mae ganddyn nhw antenâu hir. Mae pryfed hofran yn tueddu i eistedd gyda'u hadenydd ar agor, mae ganddynt gyrff hirgul mwy crwn, ac antenâu byr.
Mae'r pryfyn hwn yn nodweddiadol o fewn y genws Stratiomys gan fod ganddo ddau asgwrn cefn hir ar y scutellum (ardal y corff rhwng yr adenydd) a segment antena cyntaf hir. Gellir adnabod y rhywogaeth hon o sylwi ar y tibia melyn a'r patrwm siâp pastwn (club) melyn ar yr abdomen.
Mae'r rhywogaeth hon yn reit benodol wrth ddewis cynefin, yn aml yn ffafrio tir llawn twffa lle mae dŵr calchaidd yn codi i’r wyneb, yn agos i blanhigion wmbelifferaidd. Mae cynefin addas bellach wedi mynd yn brin, ac mae'r rhywogaeth hon wedi'i lleihau i lond llaw o safleoedd ar Ynys Môn ac yn Sir Rhydychen.
Mae'r larfa'n rhyfeddol o fawr ar ffurf bat pêl fas ac weithiau gellir eu gweld yn symud trwy lystyfiant agored ar ymylon rhuthrau dŵr araf. Gall gymryd hyd at 3 blynedd iddyn nhw aeddfedu. Mae’r rhai llawn dwf yn weithgar ddiwedd Mehefin tan ddechrau Medi, a gellir dod o hyd iddyn nhw’n bwydo ar blanhigion wmbelifferaidd cyfagos. Mae data hirdymor yn dweud wrthym fod y rhywogaeth hon wedi dirywio’n ddifrifol, ac mae'r prosiect Natur am Byth yn ymdrechu i wella cyflwr y cynefin sydd ar gael.
Dim ond un hectad y mae Saerwenynen y Clogwyn yn ei feddiannu ac mae'n un o bryfed prinnaf y DU. Mae ymddygiad y rhywogaeth hon yn nodweddiadol o lawer o wenyn maen; mae'n defnyddio llaid a mastig o blanhigion i adeiladu nythod ac yn fwy penodol yn defnyddio clogwyni tywodlyd agored gyda llystyfiant bargodol ger dŵr sy'n tryddiferu. Mae'n creu clwstwr o gwpanau nythu gan ddefnyddio tywod mastigedig, deunydd planhigion a'r dŵr ffynnon sydd ar gael i greu sment syml. Mae'r nythod hyn wedi'u hadeiladu'n bennaf o fewn twneli sydd wedi eu tyllu, neu mewn craciau tywod wrth waelod glaswellt bras. Mae'r benywod lawn dwf yn bwydo bron yn gyfan gwbl ar rywogaethau o’r Lotus (e.e. Pys y Ceirw), ac mae angen cyflenwad parod ohono yn agos i safleoedd nythu addas. Mae'r amodau hyn wedi mynd yn hynod brin, ac mae poblogaethau wedi cael eu hynysu a mynd i ddifodiant yn y pen draw.
Mae Saerwenynen y Clogwyn yn perthyn i'r genws Osmia, grŵp o wenyn gyda phennau sgwaraidd, genau cryf i gnoi lignin a deunydd mwynol caled, a brwsh paill gweladwy o dan yr abdomen. Mae'r gwryw a'r fenyw yn edrych yn eithaf gwahanol; mae'r fenyw yn fawr (12 – 13 mm) gyda thoracs ac abdomen o flew orenfrown a’r clypeus (ardal rhwng y llygaid) yn dywyll yn ogystal â thriongl sgleiniog rhwng yr adenydd. Mae'r gwryw sawl milimetr yn llai gyda gorchudd tebyg o flew oren ond gydag ymddangosiad blewog golau i'r wyneb. Gellir gwahaniaethu rhwng gwrywod a rhywogaethau eraill yn sgil lwmp bach ar wyneb fentrol y basitarsus (y rhan fwyaf canolog o segment y goes) ôl.
Dim ond mewn un lleoliad cyfrinachol ym Mhen Llŷn y gellir dod o hyd i'r rhywogaeth hon erbyn hyn. Mae arolygon gan arbenigwyr wedi dangos bod y nifer yn amrywio ond mae bellach wedi lleihau i ddim ond 15 safle nythu (2024), sy’n destun pryder enfawr, ac amheuir bod 5 wedi eu colli dros y gaeaf oherwydd tirlithriad. Mae Natur am Byth yn gweithio i ehangu nifer y safleoedd nythu sydd ar gael trwy reoli'r tirlithriadau yn ofalus a gweithio'n agos gyda thirfeddianwyr lleol.