Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae eich cefnogaeth yn hanfodol. Fel rhoddwr unigol o bwys, byddwch chi’n ein helpu ni i wireddu ein gweledigaeth o Ysbrydoli Pobl, Newid Bywydau. Rydym yn adeiladu cysylltiadau tymor hir gyda’n cefnogwyr, gan eich helpu chi i wneud argraff hirhoedlog.
Rydyn ni’n credu bod gan bawb yr hawl i gael mynediad at ac ymgysylltu â’u treftadaeth ddiwylliannol yn rhad ac am ddim. Mae eich cefnogaeth yn hanfodol bwysig. Drwy fod yn rhan o’n cylchoedd rhoi unigol, rydych chi’n helpu ni i ofalu am gasgliadau Cymru, creu arddangosfeydd, cynnal digwyddiadau a pharhau i weithio gyda chymunedau ar draws Cymru.
Mae pob un o’n cylchoedd rhoi yn darparu cyfle unigryw i ddyfnhau eich ymgysylltiad gydag Amgueddfa Cymru drwy gynnig cyfres o freintiau arbennig. Cysylltwch a'r Tîm Datblygu.
Ymunwch yma
Cyfrannu nawr
Cefnogwyr Cylch y Prif Weithredwr
Cefnogwyr Cylch y Cadeirydd
Os ydych chi’n credu’n gryf mewn ysbrydoli pobl a newid bywydau ac yn awyddus i’n helpu ni i gyflawni ein dyheadau, gan sicrhau fod cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yn parhau i fwynhau, dysgu a chael eu hysbrydoli gan y gwaith yr ydym yn ei wneud, byddem wrth ein bodd yn gweithio gyda chi. I ddarganfod mwy am sut y gall eich cefnogaeth wneud gwahaniaeth, cysylltwch a'r Tîm Datblygu.