Hysbysiad Preifatrwydd — Cefnogwyr

Gwybodaeth y byddwn yn ei chasglu fel arfer:

  • Eich teitl a’ch enw
  • Eich cyfeiriad, gan gynnwys cod post
  • Eich rhif ffôn
  • Eich cyfeiriad e-bost
  • Eich manylion cyfrif banc neu wybodaeth talu (pan yn gwneud cyfraniad ariannol)

Lle bo’n briodol efallai y byddwn hefyd yn gofyn pam eich bod wedi penderfynu cyfrannu i ni.

Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n

datganiad Gorchwyl Cyhoeddus

.

Byddwn yn defnyddio eich data i:

  • Rannu’r wybodaeth, gwasanaethau a’r cynnyrch y gofynnoch amdanynt mewn perthynas â digwyddiadau ac arddangosfeydd Amgueddfa Cymru.
  • Gweinyddu eich cyfraniad neu eich cefnogi wrth godi arian, gan gynnwys prosesu rhodd cymorth
  • Cadw cofnod o’ch perthynas gyda ni
  • Sicrhau ein bod yn gwybod sut ydych hoffech i ni gysylltu â chi
  • Deall sut gallwn wella ein gwybodaeth, gwasanaethau neu gynnyrch.

Marchnata uniongyrchol gan ein tîm Codi Arian

Byddwn yn cysylltu i’ch diweddaru ac i ofyn am gyfraniad neu gefnogaeth arall, ond dim ond os ydych wedi cydsynio i hyn. Yn achlysurol, efallai y byddwn yn cynnwys gwybodaeth gan sefydliadau partner.

Os nad ydych yn dymuno derbyn y negeseuon hyn, neu os hoffech ddiweddaru’r ffordd yr ydym yn cysylltu â chi, gallwch gysylltu â’r tîm Datblygu ar (029) 2057 3184 neu datblygu@amgueddfa.cymru.ac.uk.

Nid ydym yn gwerthu na rhannu manylion personol â thrydydd partïon at ddibenion marchnata, ond o bryd i’w gilydd byddwn yn contractio trydydd partïon i ddarparu gwasanaethau ar ran yr Amgueddfa. Pan fyddwn yn cynnal digwyddiad mewn partneriaeth â sefydliad arall a enwir, efallai y byddwn yn rhannu eich manylion â’r sefydliad hwnnw.

Sicrhau bod ein gohebiaeth yn berthnasol

I sicrhau bod ein gohebiaeth yn berthnasol a phrydlon, ac i wella profiad ein cefnogwyr, efallai y byddwn yn diweddaru’r wybodaeth ar ein cronfa ddata o ran digwyddiadau y gwnaethoch eu mynychu, fel y gallwn roi gwybodaeth am ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd fydd o ddiddordeb i chi.

Os oes gennych gwestiynau ynghylch sut ydym yn defnyddio eich data, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data, Neil Wicks: Swyddog Diogelu Data, Amgueddfa Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NP neu dpo@amgueddfacymru.ac.uk

Byddwn yn adolygu’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn o dro i dro i sicrhau ei fod wedi’i ddiweddaru ac yn adlewyrchiad cywir o sut a pham yr ydym yn defnyddio eich data personol. Bydd fersiwn gyfredol ein Hysbysiad Preifatrwydd ar ein gwefan bob amser.

Cafodd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 14 Mai 2018.