Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ein nod yw i ddod â phobl sy'n ymddiddori mewn diwylliant, gwyddorau a threftadaeth Gymreig at ei gilydd yn ein hamgueddfeydd ar gyfer profiadau unigryw.
Rydym ni eisiau eich ysbrydoli chi. Os ydych chi'n chwilio am rywbeth sy'n fwy o hwyl na 'rhwydweithio' - ymunwch â'n noddwyr.
O goginio cyn-oesol i wobrau celf rhyngwladol, mae arlwy gwych o ddigwyddiadau ar gael i'n Noddwyr.
Rydym ni'n dod â phobl at ei gilydd sydd eisiau gwarchod ein treftadaeth, datblygu artistiaid newydd Cymreig, neu am ein helpu i gynnal ein rhaglen ymchwil.
Mae'n Noddwyr yn darparu ffynhonnell hanfodol o incwm, sy'n golygu ein bod ni'n gallu ymateb ac addasu i'r byd modern
Mae pob rhodd yn gwneud gwahaniaeth mawr i'n gallu i geisio am grantiau ariannu cyfatebol; i gaffael gwrthrychau o bwysigrwydd cenedlaethol i'n casgliadau ac i'n gwaith yng nghymunedau Cymru.
Mae ein Noddwyr yn mwynhau perthynas ddyfnach ag Amgueddfa Cymru tra hefyd yn cefnogi'n gwaith, gan ein helpu i ysbrydoli pawb trwy stori Cymru.
Mae'r manteision yn cynnwys: Gwahoddiad i ddangosiadau preifat o arddangosfeydd mawr. Dod i adnabod ein pobl, ein casgliadau a'n harddangosfeydd trwy deithiau a digwyddiadau ‘tu ôl i'r llenni’ i Noddwr yn unig dair gwaith y flwyddyn. Digwyddiad Nadoligaidd blynyddol ar gyfer Noddwyr a gwesteion. Y newyddion diweddaraf gan gynnwys dau gopi'r flwyddyn o gylchlythyr y Noddwyr, Nawdd. Gostyngiad o 10% yn ein siopau, caffis a bwytai.
Os hoffech chi brofi sut beth yw bod yn Noddwr, ymunwch â ni am ddigwyddiad i roi blas: