Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Gwell Cymry, Cymry oddi cartref? Mae ein cysylltiadau Celtaidd 'nawr yn estyn ar draws y byd - yn yr oes ddigidol, gallwn gadw mewn cysylltiad â Chymru, waeth pa mor bell oddi cartref ydyn ni.
Atgyfnerthwch eich cysylltiad â Chymru trwy gefnogi ein gwaith elusennol:
Llun: Llong Capten Scott, y Terra Nova, yn gadael Caerdydd ar ei mordaith i Begwn y De
Mae ein rhaglen ymchwil yn ein harwain ar draws y byd - o Gôr y Cewri i Gefnfor yr Arctig.
Yn ystod y blynyddoedd diwetha', mae rhoddion rhyngwladol wedi hwyluso nifer o brosiectau ymchwil o safon rhyngwladol:
Yn ddiweddar, cadarnhaodd wyddonwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ddarganfyddiad deinosor Jwrasig newydd, wedi'i ganfod gan ddau ymwelydd i'r amgueddfa tra'n cerdded arfordir de Cymru.
Llun: Dant miniog y Dracoraptor Hanigani, neu'r 'Lleidr Dreigiau', rhywogaeth Jwrasig newydd a ddarganfyddwyd gan Rob a Nick Hanigan.
Defnyddiwch ein gwasanaeth
Mae'r rhain yn anrhegion delfrydol a gallwn eu postio yn rhyngwladol: dewiswch o'n casgliad o gymeriadau Cymreig, tirluniau, neu ein casgliad nodweddiadol o weithiau argraffiadol.
Llun: 'Arfodir Penfro' gan James Dickson Innes, 1911
Fel Rhoddwr Rhyngwladol hoffem ni estyn croeso cynnes i chi ar eich ymweliad â Chymru. I wneud y gorau o'ch ymweliad, mynnwch sgwrs gyda'n Tîm Datblygu.