Cynhadledd Cymdeithas yr Amgueddfeydd
Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu Cynhadledd Cymdeithas yr Amgueddfeydd i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 7 – 8 Hydref. Bydd yr Amgueddfa ar agor i'r cyhoedd yn ystod y gynhadledd, ond bydd eich ymweliad yn wahanol i'r arfer.
Bydd y prif adeilad a Gweithdy ar gau. Bydd mynediad i'r Amgueddfa drwy Fferm Llwyn-yr-eos (rhif 10 ar y map).
Er bydd orielau'r prif adeilad a Gweithdy ar gau, mae digon i'w weld o hyd! Bydd ein hadeiladau hanesyddol a gerddi ar agor fel arfer. Dewch i grwydro'r adeiladau hanesyddol sydd wedi'u symud fesul bricsen i Sain Ffagan o bob cwr o Gymru.
Bydd caffi'r prif adeilad a chaffi Gweithdy ar gau, ond byddwch chi'n gallu prynu bwyd a diod mewn nifer o lefydd eraill. Mwynhewch beint yng Ngwesty'r Vulcan, dewiswch frechdan neu goffi a chacen yng nghaffi'r Bwtri, neu ewch i nôl byrbryd o'n carafán Airstream ar lawnt Oakdale. Bydd y popty ar agor i chi brynu bara ffres.
Bydd Siop Gwalia a'r Siop Losin ar agor gydag amrywiaeth o gynnyrch ac anrhegion unigryw o Gymru.
Bydd toiledau a chyfleusterau newid cewynnau ar gael yn:
- Iard Llwyn-yr-eos
- Sefydliad y Gweithwyr Oakdale
- Gwesty'r Vulcan
- Y bloc toiledau ger Tai Teras Rhyd-y-car
Bydd y maes parcio ar agor fel arfer.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Sain Ffagan. Gobeithiwn eich gweld yn fuan!