Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru: PAS Cymru

Mae’r Cynllun Henebion Cludadwy (PAS) yn annog pobl â datgelyddion metel, ac aelodau eraill y cyhoedd sy’n dod o hyd i eitemau archaeolegol yng Nghymru a Lloegr sydd heb eu cynnwys dan y Ddeddf Trysor (1996), i roi gwybod am yr eitemau hynny.

Mae miloedd o wrthrychau’n cael eu darganfod gan bobl â’u datgelyddion metel yng Nghymru bob blwyddyn, yn cynnwys 30–40 eitem sy’n cael eu hystyried yn Drysor.

Mae’r PAS yn sicrhau bod cofnodion o ddarganfyddiadau ar gael i’r cyhoedd drwy gronfa ddata ar-lein y gellir ei chwilio sy’n cynnwys gwybodaeth am fwy na miliwn o wrthrychau.

Mwy o wybodaeth am Drysor

Digwyddiadau

Bydd tîm PAS Cymru yn cynnal, neu'n cymryd rhan yn y digwyddiadau canlynol. Bydd rhagor o fanylion i ddod ar y cyfryngau cymdeithasol.