Datblygu Cynaliadwy
Mae ‘gwarchod ein planed’ yn un o brif ymrwymiadau ein Strategaeth 2030, drwy helpu i warchod ac adfer byd natur a’n hamgylchedd.
I gyflawni hyn, rydyn ni wedi datblygu Cynllun Gweithredu Datblygu Cynaliadwy (2022–2024) ar gyfer ein saith amgueddfa genedlaethol a’r Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol. Mae pedwar prif ran i’r cynllun hwn:
- Datgarboneiddio a chynhyrchu ynni adnewyddadwy – canolbwyntio ar ein hamgylchedd ffisegol, ein hadeiladau hanesyddol ac adeiladau gweithredol.
- Adfer tir a natur – edrych ar weithgarwch sydd eisoes yn mynd yn ei flaen ar draws Amgueddfa Cymru, gan wella cydweithio, codi ymwybyddiaeth, a nodi cyfleoedd am fuddsoddiad tymor hirach, er mwyn cynyddu bioamrywiaeth a chyfleoedd i ymgorffori ein technolegau adnewyddadwy yn ein hamgueddfeydd.
- Ymgysylltu â staff a gwirfoddolwyr – cefnogi pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu cynaliadwy, boed yn aelodau staff, gwirfoddolwyr neu aelodau rhwydwaith Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru.
- Ffyrdd o weithio – i gychwyn, bydd hyn yn canolbwyntio ar wella ein dulliau caffael a’r economi gylchol / gwastraff ac arferion teithio busnes cynaliadwy. Yn ogystal â’n gweledigaeth ac ymrwymiadau, rydyn ni’n annog ein staff i gyd-fynd â phum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Mae ein Datganiad Lles yn dangos sut mae gwaith ar draws Amgueddfa Cymru wedi’i alinio.
Ym mis Mawrth 2023 llwyddodd Amgueddfa Cymru i gadw at safon Cyfnod 3 Cynllun SEREN BS8555, yn dilyn ail-asesiad o’n holl safleoedd. Drwy gynllun Seren, rydyn ni’n tracio ac yn dadansoddi ein defnydd o ddŵr, trydan a nwy, faint o ynni adnewyddadwy a gynhyrchwn, ein gwastraff a’n defnydd o drafnidiaeth. Mae’r cynllun yn ein helpu ni hefyd i gofnodi ein cydymffurfiaeth gyfreithiol, atal llygredd a gweithgarwch llywodraethu gan gynnwys gwella parhaus, archwiliadau mewnol ac adolygiadau rheoli. Mae ein Polisi Amgylcheddol ar gael yma.
Ym mis Mawrth 2023 hefyd, derbyniom achrediad lefel Arian gyda’r Project Llythrennedd Carbon. Mae’r llinell amser hon o 2019 – pan wnaethom ni ddatgan argyfwng hinsawdd ac ecolegol byd-eang – yn dangos ein taith hyd yn hyn. Bydd datblygu gweithlu carbon-lythrennog yn helpu Amgueddfa Cymru i leihau ei defnydd o garbon, codi ymwybyddiaeth o effeithiau amgylcheddol ein gwaith, a helpu’r casgliadau cenedlaethol i gyfleu’r argyfwng hinsawdd i’n hymwelwyr a’n cymunedau. Am ragor o wybodaeth am y Project Llythrennedd Carbon, cliciwch yma.
Os hoffech chi wybod mwy am ein gwaith datblygu cynaliadwy, cysylltwch â ni: cynaliadwyedd@amgueddfacymru.ac.uk.