Datblygu Cynaliadwy

Mae ‘gwarchod ein planed’ yn un o brif ymrwymiadau ein Strategaeth 2030, drwy helpu i warchod ac adfer byd natur a’n hamgylchedd. ⁠

I gyflawni hyn, rydyn ni wedi datblygu Cynllun Gweithredu Datblygu Cynaliadwy (2022–2024) ar gyfer ein saith amgueddfa genedlaethol a’r Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol. Mae pedwar prif ran i’r cynllun hwn:

  • Datgarboneiddio a chynhyrchu ynni adnewyddadwy – canolbwyntio ar ein hamgylchedd ffisegol, ein hadeiladau hanesyddol ac adeiladau gweithredol.
  • Adfer tir a natur – edrych ar weithgarwch sydd eisoes yn mynd yn ei flaen ar draws Amgueddfa Cymru, gan wella cydweithio, codi ymwybyddiaeth, a nodi cyfleoedd am fuddsoddiad tymor hirach, er mwyn cynyddu bioamrywiaeth a chyfleoedd i ymgorffori ein technolegau adnewyddadwy yn ein hamgueddfeydd.
  • Ymgysylltu â staff a gwirfoddolwyr – cefnogi pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu cynaliadwy, boed yn aelodau staff, gwirfoddolwyr neu aelodau rhwydwaith Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru.
  • Ffyrdd o weithio – i gychwyn, bydd hyn yn canolbwyntio ar wella ein dulliau caffael a’r economi gylchol / gwastraff ac arferion teithio busnes cynaliadwy. Yn ogystal â’n gweledigaeth ac ymrwymiadau, rydyn ni’n annog ein staff i gyd-fynd â phum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Mae ein Datganiad Lles yn dangos sut mae gwaith ar draws Amgueddfa Cymru wedi’i alinio⁠.

Ym mis Mawrth 2023 llwyddodd Amgueddfa Cymru i gadw at safon Cyfnod 3 Cynllun SEREN BS8555, yn dilyn ail-asesiad o’n holl safleoedd. Drwy gynllun Seren, rydyn ni’n tracio ac yn dadansoddi ein defnydd o ddŵr, trydan a nwy, faint o ynni adnewyddadwy a gynhyrchwn, ein gwastraff a’n defnydd o drafnidiaeth. Mae’r cynllun yn ein helpu ni hefyd i gofnodi ein cydymffurfiaeth gyfreithiol, atal llygredd a gweithgarwch llywodraethu gan gynnwys gwella parhaus, archwiliadau mewnol ac adolygiadau rheoli. Mae ein Polisi Amgylcheddol ar gael ⁠yma.

Ym mis Mawrth 2023 hefyd, derbyniom achrediad lefel Arian gyda’r Project Llythrennedd Carbon. Mae’r llinell amser hon o 2019 – pan wnaethom ni ddatgan argyfwng hinsawdd ac ecolegol byd-eang – yn dangos ein taith hyd yn hyn.⁠ ⁠⁠Bydd datblygu gweithlu carbon-lythrennog yn helpu Amgueddfa Cymru i leihau ei defnydd o garbon, codi ymwybyddiaeth o effeithiau amgylcheddol ein gwaith, a helpu’r casgliadau cenedlaethol i gyfleu’r argyfwng hinsawdd i’n hymwelwyr a’n cymunedau. Am ragor o wybodaeth am y Project Llythrennedd Carbon, cliciwch yma.

Os hoffech chi wybod mwy am ein gwaith datblygu cynaliadwy, cysylltwch â ni: cynaliadwyedd@amgueddfacymru.ac.uk.