Digwyddiadau:Mis Gŵyl Lles Amgueddfa Cymru

Ymunwch â ni yn Amgueddfa Cymru yn ystod mis Mawrth i ddathlu popeth sydd gan amgueddfeydd i'w gynnig i roi hwb i'n lles meddyliol ni.

Ewch i unrhyw un o'n saith amgueddfa yn ystod y mis a rhowch gynnig ar amrywiaeth o weithgareddau a all gael gwared ar straen, gwella hwyliau a'n helpu ni i ddelio â heriau bob dydd.

Bydd amrywiaeth o sesiynau galw heibio a sesiynau y gellir eu harchebu gan gynnwys crefft papur llwy gariad, gwehyddu gwŷdd llaw, chwarae gemau cyfrifiadurol ar gyfer lles, cerddoriaeth, dawns a llawer mwy. Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn cael sylw amlwg gan fod yna gyfleoedd i gymryd rhan mewn teithiau cerdded meddylgar, teithiau mwynhau celf yn araf a phaentio meddylgar i blant.

Cewch glywed mwy am adnoddau ymwybyddol ofalgar newydd sy'n cael eu creu ar gyfer ein holl amgueddfeydd mewn cydweithrediad â Meddylgarwch Cymru, a gweld y blychau 'Synhwyrau' newydd ar gyfer y rhai sydd ag anghenion synhwyraidd ychwanegol, a grëwyd gan yr artistiaid Anna Coviello a Ticky Lowe.

Ar rai o’n safleoedd, byddwch hefyd yn cael cyfle i gwrdd â sefydliadau eraill a all helpu gyda lles meddyliol cadarnhaol a’ch cyfeirio at ragor o wybodaeth, cefnogaeth, cyngor ac arweiniad.

Bydd hwn hefyd yn gyfle i ddarganfod mwy am Broject Hapus Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Gyda chefnogaeth chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl.

Mis Gŵyl Lles Amgueddfa Cymru
Mis Gŵyl Lles Amgueddfa Cymru

Digwyddiadau perthnasol

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau