Digwyddiad:Gweithdy peintio meddylgar i blant
Fel rhan o Ŵyl Lleisiant Meddwl yn Amgueddfa Cymru, bydd Amgueddfa Wlân Cymru yn cynnal gweithdy paentio meddylgar i blant. Mae'r ŵyl yn dathlu popeth sydd gan ein hamgueddfeydd i'w gynnig i gefnogi llesiant meddwl.
Byddwch yn greadigol yn y gweithdy hwyliog, hamddenol hwn wedi'i ysbrydoli gan batrymau gwlân lliwgar Amgueddfa Wlân Cymru. Gan ddefnyddio paent acrylig, gallwch addurno bag tote a ddarperir neu ddod â darn o ddillad gyda chi i'w addasu. Mwynhewch amser meddylgar syml wrth i chi greu rhywbeth gwirioneddol unigryw i'w gymryd adref.
Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn. Oherwydd cyfyngiadau lle, dim ond un oedolyn fesul archeb sy'n cael dod.
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd