Digwyddiad:Dydd Gŵyl Dewi⁠ yn Big Pit - dathlu diwylliant Cymru a Lles

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Wedi'i Orffen

Ymunwch â ni yn Big Pit i ddathlu'r diwylliant a'r traddodiadau sy'n gwneud Cymru mor arbennig. 

Ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, bydd yr Amgueddfa yn fwrlwm o gerddoriaeth, gweithgareddau ac ysbryd cymunedol.

Bydd cerddoriaeth gan artistiaid Cymreig, a pherfformiadau cerddorol a dawns gan ysgolion lleol i godi'ch calon, a thoreth o gennin Pedr i lonni’r diwrnod.

Dewch i ddysgu mwy am sut all treftadaeth Cymru a gwneud y pethau bychain wella ein lles meddyliol, a chymryd rhan mewn gweithgareddau all gael gwared ar straen, gwella ein hwyliau a'n helpu i ddygymod â heriau bywyd bob dydd. 

Hefyd, bydd y Daith Dan Ddaear fyd-enwog - AM DDIM! Mwy o fanylion YMA.

Perfformiadau 

11am - 4.30pm 

Ystafell Coity (Adeilad y Baddondai Pen Pwll) 

Addas i: Bawb  

11.00am - 11.15am        Dawnsio Gwerin gan Ysgol Gynradd Treftdaeth Blaenafon 

11.30am -  12.00pm     Perfformiad: Tomos Newman  

12.15pm - 12.30pm      Perfformiad:  Cor Ysgol Gynradd Beaufort Hill 

12.45pm - 1.15pm         Sgwrs gyda Curadur, Ceri Thompson: 'Henry Naunton Davies – llawfeddyg pyllau glo Rhondda' Iaith Saesneg 

1.30pm - 2.00pm         Performance: Rebecca Richards 

2.15pm - 2.45pm         Perfformiad:  Awdl 

3.00pm – 3.30pm       Perfformiad: Hari Powell 

 

Ffair Les 

11am - 3.30pm 

Ystafell Kearsley (Adeilad y Baddondai Pen Pwll) 

Addas i: Bawb 

 

Gweithgaredd Crefftau Papur – Llwy Garu 

11am - 3.30pm 

Y ’Stiwt 

Addas i: Bawb 

Archebu: Does dim angen archebu – sesiwn galw heibio.

Ysgrifennu Barddoniaeth ar gyfer Llesiant Meddyliol  

1pm - 3pm  

Ystafell y Bwrdd   

Addas i: 16+

Noder bydd ffilmio yn digwydd yn ystod y sesiwn hon. Os yw'n well gennych beidio â chael eich ffilmio, rhowch wybod i ni.

Archebu: Dim lle ar ôl

Ymunwch â Meddylgarwch Cymru ar gyfer Sesiynau dan arweiniad

12pm a 2pm

Swyddfa 

Archebu: Does dim angen archebu – sesiwn galw heibio.

Gwybodaeth

1 Mawrth 2026, 11am - 4.30pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Llun o'r Penwisg efo baner Dydd Gwyl Dewi
Llun o helmed Glar gyda cenning pedr
Logos ar gyfer People's Postcode Lottery and Postcode Culture Trust

Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau